P-04-326 Na i losgyddion
Geiriad y ddeiseb
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i bwyso ar Lywodraeth Cymru i ddiwygio ei pholisi cynllunio a’i pholisi ynghylch gwastraff gweddilliol er mwyn cael rhagdybiaeth yn erbyn adeiladu llosgyddion, gan eu bod yn gyrru’r rhan fwyaf o garbon o wastraff i mewn i’r awyr ar ffurf carbon deuocsid, yn rhyddhau gronynnau mân iawn a allant fod yn beryglus i iechyd y cyhoedd, ac yn creu lludw gwenwynig. Credwn fod llosgyddion yn wael i’r amgylchedd ac yn wael i bobl.
Cefndir
Cynigwyd y ddeiseb hon gan Gyfeillion y Ddaear Cymru, a chasglwyd 1299 o lofnodion.